Y bore ganwyd Iesu oedd fore hyfryd iawn, Mae'r Beibl yn cofrestru yr hanes i ni'n llawn Mor rhyfedd gweled Brenin yr holl frenhinoedd gwych Yn gorwedd ar Iawr gerwin yn Ilety gwael yr ych. Pob llety yn yr ardal a'i gwrthodasant Ef Caesant ddrws i'w erbyn am nad oedd iddo le A ydym ni am dderbyn yr Iesu hawddgar llon Ai cau y drws i'w erbyn a wnawn y funud hon. Angylion oedd yn canu mewn gynau gwynion clear Y bore ganwyd Iesu yn Frenin nef a dae'r Faint mwy a ddylem ganu ni bechaduriaid tlawd Am eni'r annwyl Iesu yn gyfaill goaru gawd. Y bore ganwyd Iesu y doethion llawn o ffydd A ddaethant i'w anrhegu ar doriad gwawr y dydd A rhoddwn ni ein calon yn anrheg iddo Ef Mae'r Iesu'n derbyn rhoddion yn awr yn nheyrnas Nef. Ti blentyn bach diniwed pam wyt mor drist dy drem A fuost ti yn gweled gwiw Faban Bethhlehem Os wyt yn welw'th wyneb mewn gwisg o garpiau tlawd Bu'r Iesu yn y preseb er mwyn bod i it'n frawd. Carol plygain arall boblogaidd yn cael ei chanu Yn yr hen ddull o dri llais : Yr alaw yn y canol a'r descant a'r bas naill ochor.